Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon  – Dydd Iau 15 Tachwedd 2018

Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

Memorandwm ar Gynigion Cyllideb Ddrafft 2019-20 ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol

 

 

1.0 Cyflwyniad

Mae’r papur hwn yn darparu gwybodaeth gefndir ariannol i’r Pwyllgor am fy nghynlluniau gwariant fel y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon mewn perthynas â’r cyllidebau Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol o fewn fy mhortffolio, fel nodwyd yn y Gyllideb Ddrafft fanwl a gyhoeddwyd ar 23 Hydref 2018.  

 

Yn y llythyr dyddiedig 30 Gorffennaf 2018 yn fy ngwahodd i fynychu sesiwn y Pwyllgor, gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth am faterion cyllidebol penodol.

Mae hyrwyddo gweithgarwch corfforol yn galw am gydweithio ar draws ystod o sectorau, cyrff cyhoeddus ac Adrannau Llywodraeth Cymru gan gynnwys iechyd, addysg, trafnidiaeth a’r amgylchedd, yn ogystal â chwaraeon. Mae’r papur hwn yn ymateb i linellau gwariant yn y gyllideb sy’n ymwneud â chwaraeon yn unig, a’r gwaith y mae fy swyddogion yn ei gyflawni ar y cyd â swyddogion o Adrannau eraill.

 

2.0 Crynodeb o Newidiadau i’r Gyllideb

a)    Dadansoddiad o ddyraniadau MEG yr Economi a Thrafnidiaeth 2019—20 yn ymwneud â chwaraeon a gweithgarwch corfforol (yn ôl Maes y Rhaglen Wariant, Gweithred a’r Llinell Wariant yn y Gyllideb).  

b)    Dyraniadau dangosol MEG yr Economi a Thrafnidiaeth 2020-21 yn ymwneud â chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

c)    Sylwebaeth ar bob Gweithred sy’n ymwneud â chwaraeon a gweithgarwch corfforol o fewn MEG yr Economi a Thrafnidiaeth, gan gynnwys dadansoddiad ac esboniad am y newidiadau rhwng Cyllideb Ddrafft 2019-20 a’r Gyllideb Atodol Gyntaf (Mehefin 2018).

 

Mae Tabl 1 yn rhoi trosolwg o ddyraniadau’r gyllideb. Mae Cyllideb Ddrafft  2019-20 yn darparu cynllun blwyddyn ar gyfer gwariant refeniw a chynllun dwy flynedd ar gyfer buddsoddi cyfalaf.  

 

TABL 1: CRYNODEB O’R GYLLIDEB DDRAFFT

Gweithred: Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol

Llinell Wariant

yn y Gyllideb

Cyllideb Atodol
2018-19

(£000)

Cyllideb Ddrafft 2019-20 (£000)

Cyllideb Ddrafft 2020-21 (£000)

Refeniw

 

 

 

 

Chwaraeon Cymru

5900

22,092

22,092

 

Cymorth i Chwaraeon

6012

252

252

 

Cyfanswm Refeniw

 

22,344

22,344

 

Cyfalaf

 

 

 

 

Chwaraeon Cymru

6100

330

329

345

Ad-daliadau’r Cynllun Benthyciadau Cyfalaf Cyfleusterau Chwaraeon

6013

0

(320)

(320)

Cyfanswm Cyfalaf

 

330

9

25

 

Mae ffigurau’r Gyllideb Ddrafft Refeniw ar gyfer Chwaraeon Cymru yn 2019-20 yr un peth â’r ffigurau gwaelodlin gwreiddiol am y flwyddyn honno.  

 

Mae ffigurau’r Gyllideb Ddrafft Cyfalaf yn dangos gostyngiad o £1,000 rhwng y gyllideb waelodlin a’r gyllideb ddrafft. Mae cyllideb ddangosol 2020-21 yn dangos bod y gyllideb gyfalaf yn dychwelyd i’r ffigur yng nghyllideb 2017-18, sef £345,000.

 

Mae ad-daliadau’r Cynllun Benthyciadau Cyfalaf Cyfleusterau Chwaraeon yn cynrychioli ad-daliadau a wnaed mewn perthynas â thri benthyciad i’r Awdurdodau Lleol yn yr un cynllun. Cyfanswm y benthyciadau ymlaen llaw yw £1,964,480. Telir y rhain yn ôl yn llawn dros gyfnod o saith mlynedd  (dechreuodd yr ad-daliadau yn 2018-19 a gwneir addasiad yn yr Ail Gyllideb Atodol i hyn).  Mae’r symiau hyn yn

ad-daladwy i Gyllid Canolog Llywodraeth Cymru.

 

3.0 Ymatebion i Gais am Wybodaeth Benodol gan y Pwyllgor

 

3.1 Dyraniad yn y gyllideb i Chwaraeon Cymru, a’r datblygiadau i fonitro effeithiolrwydd defnydd Chwaraeon Cymru o’r cyllid.

Dangosir cyfanswm dyraniad cyllidebol Chwaraeon Cymru yn Nhabl 1.  

Mae monitro effeithiolrwydd defnydd Chwaraeon Cymru o’r cyllid yn digwydd ar ystod o lefelau: trafodaethau unigol am y prosiectau, comisiynu Chwaraeon Cymru i adolygu effaith rhaglenni penodol (er enghraifft Nofio am Ddim a’r rhaglen Galw am Weithredu), cyfarfodydd monitro chwarterol, a mynychu cyfarfodydd Bwrdd  Chwaraeon Cymru.  Mae fy swyddogion yn cwrdd â Phrif Weithredwr Chwaraeon Cymru yn gyson i fonitro’r cynnydd ar y prosiectau allweddol, ac rwy’n cwrdd â’r Cadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol o bryd i’w gilydd i drafod blaenoriaethau polisi a chynnydd yn erbyn y Llythyr Cylch Gwaith a’r Cynllun Busnes.

 

Rydym wedi ymateb i bwyntiau a godwyd gan y sector chwaraeon mewn adolygiad annibynnol o Chwaraeon Cymru, ac wedi gwella ein dulliau parthed monitro ac effeithiolrwydd Chwaraeon Cymru. Mae Chwaraeon Cymru yn paratoi Cynllun Busnes blynyddol sy’n ymateb i’r llythyr cylch gwaith, ac yn nodi meysydd allweddol o weithgarwch ar gyfer y flwyddyn i ddod, ynghyd âmesurau perfformiad priodol. Rydym wedi cyflwyno dogfen tracio newydd i hwyluso trafodaeth sy’n canolbwyntio ar brosiectau a gwariant, ac i gofnodi’r cynnydd yn erbyn gofynion y llythyr cylch gwaith a’r Cynllun Busnes. Mae fy swyddogion yn cwrdd â Chwaraeon Cymru mewn cyfarfodydd monitro chwarterol, ac yn darparu diweddariad am y ddogfen tracio imi i’w hystyried.  Yn ogystal, erbyn hyn mae swyddogion yn mynychu cyfarfodydd Bwrdd Chwaraeon Cymru yn rheolaidd fel sylwedyddion er mwyn adeiladau perthnasoedd cryfach a chynyddu amlygrwydd ymhlith yr aelodau. Rydym hefyd wedi trefnu secondiad i swyddog i weithio gyda Chwaraeon Cymru mewn rôl gyswllt polisi, i gefnogi gweithredu’r polisïau ac i gydlynu datblygiad a darpariaeth y Gronfa Iach ac Egnϊol.   

 

Mae Tîm Mewnwelediad Chwaraeon Cymru yn casglu data am lefelau gweithgarwch corfforol a chymryd rhan mewn chwaraeon drwy ei arolygon ei hun, a hefyd yn darparu dadansoddiad o’r data a gasglwyd drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru.  Bydd Chwaraeon Cymru yn cyhoeddi canfyddiadau’r Arolwg diweddaraf o Chwaraeon Ysgol (2018) cyn diwedd y flwyddyn.  Datgelodd ddadansoddiad o arolwg blaenorol fod canran y plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy wedi codi o 40% yn 2013 i 48% yn 2015.

 

Yn ogystal, yn ddiweddar comisiynodd Chwaraeon Cymru werthusiad o werth cymdeithasol ac economaidd chwaraeon i Gymru. Cyhoeddir y canlyniadau dros y misoedd nesaf fesul cyfran a themâu penodol.

 

3.2 Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol dros y tair blynedd nesaf,  a’r dyraniadau/gwariant rhagamcanol i’w cyflawni.

 

Cyflwynir y blaenoriaethau ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y llythyr cylch gwaith blynyddol i Chwaraeon Cymru. Mae hwn yn nodi’r disgwyliadau yng nghyd-destun blaenoriaethau’r cynllun busnes blynyddol, ac ymrwymiadau ac amcanion y Cynllun Corfforaethol tair blynedd.

 

Y blaenoriaethau yw:

·         Cael mwy o bobl i fod yn egnïol ym mhob cyfnod o’u bywydau: yn yr ysgol, ar ôl gadael addysg, ar ôl dechrau swydd, os oes ganddynt deulu, ac ar ôl ymddeol.

·         Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant drwy helpu ysgolion i ddysgu’r sgiliau iddyn nhw a darparu’r wybodaeth, yr ysgogiad a’r hyder i fod yn egnïol ac i barhau i fod yn egnïol.

·         Buddsoddi ymdrech ac adnoddau lle y mae eu hangen fwyaf, lle ceir amrywiadau sylweddol o ran cyfraddau cyfranogi, a lle ceir diffyg cyfleoedd neu ddyhead i fod yn egnïol.

·         Helpu i gefnogi datblygu chwaraeon cymunedol ledled Cymru.

·         Helpu chwaraeon i barhau i feithrin, datblygu a chefnogi talent i gyflawni’r math o lwyddiant sy’n ysbrydoli pobl ac yn atgyfnerthu ein hunaniaeth fel cenedl sy’n hoff o chwaraeon.

 

Rhestrir y canlyniadau yn llythyr cylch gwaith blynyddol Chwaraeon Cymru hefyd:

·         Mwy o bobl yn dilyn canllawiau gweithgarwch corfforol y Prif Swyddog Meddygol.

·         Mwy o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch hamdden egnïol ar dri achlysur yr wythnos neu fwy.

·         Cynnydd yn nifer y bobl fwyaf difreintiedig neu anghenus sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch hamdden egnïol.

·         System sy’n darparu llwyddiant chwaraeon elitaidd parhaus ac ar yr un pryd yn sicrhau diogelwch a llesiant yr holl fenywod a dynion sy’n cymryd rhan.

 

Thema allweddol sy’n sail i’r gwaith yw pwysigrwydd cydweithio, gweithio ar draws yr holl bartneriaethau a’r cyrff sy’n darparu chwaraeon a gweithgarwch corfforol ledled Cymru, dulliau cydweithio arloesol a rhanbarthol a chyfleoedd i ehangu rhaglenni llwyddiannus a dulliau llwyddiannus o weithio.  

 

Wrth ymateb i bwyntiau a godwyd yn yr adolygiad annibynnol o Chwaraeon Cymru,

rydym wedi gofyn iddo gyflawni nifer o adolygiadau gweithredol gan gynnwys:

·         Adolygu’r weledigaeth a chynhyrchu strategaeth hirdymor ar gyfer chwaraeon yng Nghymru.

·         Rhoi mwy o ystyriaeth i’r Rhaglen Chwaraeon Cymunedol.

 

 

O ystyried mai cyfanswm y dyraniad cyllidebol i Chwaraeon Cymru (yn fras, £22 miliwn yn flynyddol a hefyd £14.5 miliwn o arian y Loteri) cefais argymhellion gan Fwrdd Chwaraeon Cymru am sut orau i ddyrannu’r cyllid er mwyn bodloni’r blaenoriaethau. Dechreuir ar y broses hon drwy drafodaethau anffurfiol ac yna drafodaethau ffurfiol am y Cynllun Busnes. 

 

3.3 Beth yw’r dystiolaeth a ysgogodd Lywodraeth Cymru i bennu  blaenoriaethau a chyllideb arfaethedig ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol

 

Casglwyd y dystiolaeth o Arolwg Cenedlaethol Cymru, Arolwg ar Chwaraeon Ysgol ac arolygon blaenorol, fel Rhieni Egnϊol, Plant Egnϊol ac Arolwg Iechyd Cymru.   Casglwyd tystiolaeth ansoddol o ystod eang o drafodaethau ymgynghorol, er enghraifft, adolygiad o’r adnoddau chwaraeon yng Nghymru, a chanlyniadau o “Sgwrs” Chwaraeon Cymru gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru fel rhan o ddatblygu’r weledigaeth newydd a diweddaru’r strategaeth hirdymor, ac adolygiad annibynnol o Chwaraeon Cymru.

 

Mae Chwaraeon Cymru hefyd yn cynnal nifer o werthusiadau o raglenni (er enghraifft gwerthuso Galw am Weithredu sydd wedi rhedeg gyda’i gilydd ers i’r rhaglen ddechrau yn 2012) yn ogystal â derbyn adroddiadau monitro oddi wrth bartneriaethau cyflawni allweddol (Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol ac eraill sydd wedi derbyn grantiau).  Defnyddir y canlyniadau hyn fel tystiolaeth i bennu blaenoriaethau cyllidebol y dyfodol.

 

Mae’r dull gydol oes yn tanlinellu’r cyfnodau lle mae unigolion yn wynebu’r perygl mwyaf o golli eu lefelau gweithgarwch corfforol.  Mae’n cynnig mecanwaith i adnabod sut a lle i dargedu ymyriadau, ac yn cynnig pa gamau a allai fod yn fwyaf effeithiol.   

 

3.4 Tystiolaeth o sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a’r pum ffordd o weithio wedi dylanwadu ar y dyraniadau cyllidebol ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

 

Mae canlyniadau llesiant a ffyrdd o weithio wedi’u gwreiddio ym mhob agwedd ar gyfrifoldebau a gweithgareddau Chwaraeon Cymru gan gynnwys strategaethau a chynlluniau busnes. Datblygwyd pedwar amcan llesiant mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, ac fe’u cyhoeddwyd ochr yn ochr â datganiad o ymrwymiad.

 

Wrth adolygu a datblygu gweledigaeth a strategaeth hirdymor newydd ar gyfer chwaraeon yng Nghymru, llwyddodd Chwaraeon Cymru i gynnwys a chydweithio gydag ystod eang o randdeiliaid traddodiadol ac annhraddodiadol (o’r sector chwaraeon ac yn unigolion).  Ar hyn o bryd, mae Chwaraeon Cymru yn cydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu ar y cyd i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ledled Cymru.  Mae hefyd yn datblygu’r Gronfa Iach ac Egnϊol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i annog cydweithio ar draws y cymunedau a fydd yn arwain at fanteision cynaliadwy hirdymor.

 

Mae’r Gronfa Iach ac Egnϊol newydd yn bwriadu gwreiddio egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio yn ei chynllun, ei dull cyflawni a’i gwaith monitro a gwerthuso.

 

3.5 Manylion am sut y bydd y gyllideb yn cefnogi:

 

o   Cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc Cymru.

Bydd Chwaraeon Cymru yn gweinyddu a nifer o raglenni penodedig wedi’u teilwra ar gyfer plant a phobl ifanc.  Mae’r rhain yn cynnwys mentrau gyda GemauStryd, Rhwydwaith Chwaraeon BME Cymru, y rhaglenni Pobl Ifanc Egnϊol, Nofio am Ddim, Llysgenhadon Ifanc a’r Urdd.  Eleni mae Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi mwy na £7 miliwn yn y rhaglenni hyn. Mae’r effaith yn cael ei adolygu i bennu darpariaeth i’r dyfodol.

 

Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i gydweithio ag Addysg i gefnogi’r gwaith o weithredu’r cwricwlwm newydd a’r Maes Dysgu a Phrofiad Llesiant.   

 

Bydd Chwaraeon Cymru yn cyhoeddi Arolwg o Chwaraeon Ysgol erbyn diwedd y flwyddyn, i sicrhau bod ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn cael dealltwriaeth werthfawr er mwyn cynllunio’u gweithgarwch corfforol yn well. Bydd y data’n cynorthwyo Chwaraeon Cymru, cyrff llywodraethu cenedlaethol a sefydliadau eraill i nodi’r galw cudd am chwaraeon penodol yn ogystal â helpu i lywio cyfeiriad  buddsoddiadau yn y dyfodol.

 

o   Yr agenda ataliol ehangach.

Mae’r mentrau a’r ymyriadau a ariennir drwy ddyraniadau cyllidebol chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cyfrannu tuag at helpu unigolion i ddod yn gorfforol egnïol, neu i gynnal lefelau gweithgarwch corfforol, sy’n arwain at fanteision iechyd ataliol. Mae’r mentrau a’r ymyriadau’n canolbwyntio ar gynyddu cyfranogiad grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ogystal â phobl o bob oed  – o’r ieuengaf i’r hynaf; ac i ddarparu’r sgiliau a’r hyfforddiant i alluogi unigolion i ddatblygu’n hyfforddwyr, gwirfoddolwyr ac yn eiriolwyr i’w cyfoedion. 

 

Mae Chwaraeon Cymru hefyd yn darparu’r swyddogaeth statudol o ymateb i  geisiadau cynllunio pan fydd cynigion datblygu yn golygu bod mannau gwyrdd dan fygythiad.

 

Mae’r cynllun “Pwysau Iach: Cymru Iach” arfaethedig yn canolbwyntio ar newid cynaliadwy, hirdymor ar gyfer atal a lleihau gordewdra ledled Cymru. Thema allweddol y cynllun yw annog mwy o weithgarwch corfforol. Mae fy swyddogion wedi cydweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus i gyfrannu at y cynigion y cynhelir ymgynghoriad arnynt dros y misoedd nesaf. 

 

o   Cydweithio rhwng chwaraeon, iechyd cyhoeddus a phartneriaid eraill.

Comisiynwyd Chwaraeon Cymru i gydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i gynhyrchu a chyflawni cynllun gweithredu ar y cyd.  

 

Mae Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda’r Adrannau Iechyd a Chwaraeon i ddarparu’r Gronfa Iach ac Egnϊol newydd.  Ar ôl ei lansio ym mis Gorffennaf 2018, bydd cam cyntaf y buddsoddiad o £5 miliwn dros dair blynedd yn canolbwyntio ar wella lefelau gweithgarwch corfforol. Anogir ymgeiswyr i ddatblygu datrysiadau sy’n manteisio ar gydweithio, asedau presennol y gymuned, er enghraifft clybiau, ysgolion a gweithleoedd, yn ogystal â thechnoleg newydd. Cyhoeddwyd manylion ar gyfer gwneud cais i’r Gronfa Iach ac Egnϊol ar 15 o Hydref.  Cynhaliwyd cyfres o sioeau teithiol ledled Cymru i bobl sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut y bydd y gronfa’n gweithredu.  

 

Mae fy swyddogion yn yr adran Chwaraeon yn gweithio’n agos â swyddogion ar draws llawer o Adrannau Llywodraeth Cymru, er enghraifft Addysg (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Canolfannau Cymunedol); Trafnidiaeth (Teithio Llesol); Iechyd (Y Gronfa Iach ac Egnϊol, Pwysau Iach: Cymru Iach, Milltir y Dydd, Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, Unigrwydd ac Unigedd); a Chymunedau (Trosglwyddo Asedau Cymunedol, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol).